Text Box: Kirsty Williams, AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
 Llywodraeth Cymru

3 Tachwedd 2016

Annwyl Kirsty

Adolygiad o Gyllido Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr yng Nghymru

 

Fel y byddwch yn ymwybodol, yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Terfynol Adolygiad Diamond, cyfarfu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg â'r Athro Diamond i drafod yr adroddiad a'i argymhellion yn fanwl.

 

Croesawodd y Pwyllgor yn fawr y cyfarfod gyda'r Athro Diamond, gan fod hyn yn rhoi cyfle i glywed o lygad y ffynnon y meddylfryd y tu ôl i lawer o argymhellion yr adolygiad, ac i'r Athro Diamond ddarparu rhagor o wybodaeth ac ateb cwestiynau ar argymhellion penodol ac ar yr Adroddiad Terfynol yn ei gyfanrwydd.

 

Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol i nodi'n ffurfiol farn a phryderon y Pwyllgor ar feysydd penodol o'r adolygiad cyn eich ymateb ffurfiol i'r Adroddiad Terfynol. Byddai'r Pwyllgor hefyd yn croesawu'n fawr eich ymateb i nifer o gwestiynau a nodir yn y llythyr hwn, lle'r ydym yn credu bod angen eglurder neu sicrwydd pellach. Bydd hyn yn helpu'r Pwyllgor o ran ei waith craffu parhaus ar argymhellion yr adolygiad.

 

Pecyn o gymorth

 

Mae'n amlwg bod yr Athro Diamond yn ystyried y dylai argymhellion yr adolygiad gael eu mabwysiadu fel pecyn, a fydd yn darparu:

 

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r argymhellion ar gyfer israddedigion amser llawn a hefyd yn croesawu'r argymhellion ar gyfer cymorth ar gyfer addysg uwch ôl-raddedig a rhan-amser. Mae'r Pwyllgor yn credu y dylai'r argymhellion gael eu gweithredu fel "pecyn" i helpu i alluogi myfyrwyr unigol i gael eu cefnogi'n ariannol trwy wahanol lefelau o addysg uwch, gan gynnwys o fewn addysg bellach.

 

Er mwyn cefnogi'r dull hwn, mae'r Pwyllgor yn croesawu'r argymhellion yn adroddiad Diamond am gymorth Llywodraeth Cymru i raglenni addysg uwch a  phrentisiaethau lefel uwch a gefnogir gan gyflogwyr. Mae hefyd yn argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i gyflwyno / datblygu system fwy "deinamig" rhwng addysg bellach ac uwch, gan ddefnyddio rhai o'r trefniadau presennol mwyaf llwyddiannus rhwng colegau a sefydliadau addysg uwch fel modelau posibl yn y dyfodol.

 

Ffioedd israddedig amser llawn

 

Dywedodd yr Athro Diamond wrth y Pwyllgor ei fod yn credu bod lefel y ffioedd ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn yn "weddol agos ati" i alluogi prifysgolion i weithredu'n effeithiol, ond y bydd angen i Lywodraeth Cymru "ystyried o ddifrif beth fydd y cyfraddau hyn yn y dyfodol".

 

Mae'r Pwyllgor wedi nodi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gosod uchafswm y ffioedd ar gyfer cyrsiau israddedig ar gyfer 2017/18 yn £9,000 yf o'i gymharu â hyd at uchafswm o £9,250 y flwyddyn yn Lloegr (cynnydd chwyddiant). Fodd bynnag, mae rhai sylwebyddion wedi mynegi'r farn y bydd hyn yn rhoi'r sector addysg uwch yng Nghymru dan anfantais.

 

A allech chi nodi eich rhesymau dros osod lefel y ffioedd yn £9,000 y flwyddyn, ac amlinellu (a) ar ba lefel yr ydych yn bwriadu gosod ffioedd israddedig llawn amser yn y blynyddoedd i ddod; a (b) sut yr ydych yn bwriadu ymateb i newidiadau yn y dyfodol i ffioedd israddedig yn Lloegr.

 

 

 

 

 

 

 

Modelu ariannol a rhagolygon

 

Mae'r Athro Diamond wedi cadarnhau bod y modelu ariannol o fewn yr adolygiad yn seiliedig i raddau helaeth ar yr uchafswm ffi o £9,000 a nifer y myfyrwyr ar hyn o bryd. Byddai cynnydd chwyddiant o 2 y cant yn costio £24 miliwn ychwanegol.

 

A allwch gadarnhau pa orswm wrth gefn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnwys yn ei modelu ariannol i ystyried, er enghraifft: newid demograffig; cynyddu nifer y myfyrwyr ar bob lefel; a chynyddu'r uchafswm ffioedd? Yn ogystal, pa fodelu mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar nifer y myfyrwyr Ewropeaidd a rhyngwladol yn y dyfodol?

 

Cyffredinoliaeth Gynyddol

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi argymhelliad yr adolygiad i roi grant cynhaliaeth o £1,000 yf i bob myfyriwr israddedig amser llawn waeth beth yw incwm yr aelwyd. Dywedodd yr Athro Diamond wrth y Pwyllgor fod yr argymhelliad wedi'i wneud yn  ysbryd cyffredinoliaeth gynyddol, sydd wedi bod yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru ers peth amser.

 

A ydych yn cytuno ag egwyddorion cynigion yr Athro Diamond ar gyfer "cyffredinoliaeth gynyddol", ac a ydych yn bwriadu derbyn yr argymhelliad i roi grant cynhaliaeth o £1,000 yf i bob myfyriwr israddedig amser llawn?

 

Cost y cynigion

 

Roedd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch a fyddai'r argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn niwtral o ran cost, fel yr amlinellwyd. Codwyd rhai cwestiynau hefyd ynghylch cylch gorchwyl yr adolygiad yn ymwneud â 'chostau'.

 

A allech egluro:

 

§  A ofynnwyd i'r Athro Diamond i wneud argymhellion “niwtral o ran cost”?

§  P'un a y newidiwyd y gofyniad hwn yn ystod yr Adolygiad?

§  A yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl gwneud arbedion ariannol o bolisi newydd o'i gymharu â'r polisi blaenorol, gan gynnwys y Grant Ffioedd Dysgu?

 

 

 

 

 

Caffael sgiliau lefel uwch a dilyniant

 

Dywedodd yr Athro Diamond wrth y Pwyllgor ei fod "yn angerddol am sicrhau bod ystod eang o sgiliau ar gael", gan gynnwys prentisiaethau lefel uwch. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae'r Pwyllgor yn argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn adolygu:

 

 

Cymorth ychwanegol i grwpiau sy'n agored i niwed

 

Mae'r Adroddiad yn cydnabod bod myfyrwyr ag anabledd yn wynebu heriau penodol wrth gwblhau cwrs addysg uwch yn llwyddiannus, ac yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi i ystyried pa gymorth pellach y gellir ei gynnig. Mae'r Pwyllgor yn cytuno'n llwyr â hyn, ac yn argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Thrysorlys EM yn hyn o beth.

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r argymhelliad y dylai pobl sydd â phrofiad o ofal dderbyn yr uchafswm o ran Grant Cynhaliaeth. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y dylai grwpiau eraill sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rheini sydd â phrofiad o'r system gofal, gael eu hystyried hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer cymorth ychwanegol, ac yn galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i archwilio sut y gellir symud hyn ymlaen.

 

Mwy o Alw

 

Gallai'r gwaith o weithredu'r system newydd gynyddu'r galw o fewn y lleoliadau Addysg Uwch. Felly, mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith y cynigion ar staff addysg uwch, yn enwedig llwyth gwaith y staff presennol a chyflenwad posibl o ddarlithwyr newydd, yn ôl yr angen.

 

 

 

 

 

 

 

Cymhelliant i annog graddedigion i ddychwelyd i Gymru

 

Mae'r Pwyllgor yn cymeradwyo argymhellion yr Athro Diamond am gymell graddedigion i ddychwelyd i Gymru. Mae'r Pwyllgor yn nodi bod yr adroddiad yn cyfeirio at ganslo benthyciad fel un dull o gymell, ond yn awgrymu y dylai dulliau eraill, megis "taliadau croeso" gael eu harchwilio, yn enwedig os "yw canslo benthyciad yn rhannol" yn rhywbeth fydd yn anodd i'w drefnu yn gyflym.

 

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ystyried ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i argymhellion Diamond. Unwaith y bydd yr ymateb yn cael ei gyhoeddi, byddem yn croesawu'r cyfle i drafod hyn ymhellach gyda chi yn y Pwyllgor.

 

Rwyf wedi anfon copi o'r llythyr hwn at Russell George, AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. 

 

Yn gywir

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

 

Cc Russell George, AC
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau